Croeso
MAMAA logo

Nid ydym byth eisiau troi i ffwrdd unrhyw un sydd angen gwybodaeth neu gefnogaeth. Oherwydd hyn mae MAMAA wedi penderfynnu agor fforwm ar ein gwefan ble y gall teuluoedd a ffrindiau sgwrsio gyda'i gilydd ar-lein heb fod raid datgelu enwau a chyfeiriad onibai eich bod eisiau gwneud.

Rydym yn ymwybodol mai'r nos yw'r amser gwaethaf i ran fwyaf o bobl, nid ydych yn gallu cysgu, rydych angen atebion i gwestiynau ond ble allwch chi droi am gymorth? Mae'ch swyddog cyswllt wedi gorffen am y dydd, mae gan y rhan fwyaf o grwpiau cefnogi wasanaeth ateb ffon cyfyngedig sydd yn cau am 4:00pm, nid ydych eisiau galw eich teulu eto yng nghanol y nos ac rydych yn teimlo yn rhwystredig ac yn unig.

Bwriad y wefan yma yw eich galluogi i ddod o hyd i gymaint o wybodaeth ag y gallwch pryd bynnag yr ydych eisiau gwneud hynny. Gobeithiwn y bydd y fforwm yn eich rhoi mewn cysylltiad gyda phobl eraill sy'n wirioneddol yn deall yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo.Efallai y bod yna rhywun sydd wedi gofyn yr un cwestiynau a sydd gyda'r atebion yr ydych angen.


Tud 1 | Tud 2 | Tud 3

Tool Bar with links
info@mamaa.org Bookmark Page Print Page Send a link to a friend

©MAMAA Charity Reg Number: 1074817 | Designed by Delwedd

 

info@mamaa.org Bookmark Page Print Page Send a link to a friend